In this section

How to find us at Casnewydd

Address

Ty Columbus
Parc Busnes Langstone
Heol Cas-Gwent
Casnewydd
NP18 2LX

Sut i ddod o hyd i ni.

Ar Drên

Yr orsaf drenau agosaf yw Casnewydd (De Cymru). I gael gwybodaeth am amseroedd y trenau a'r cwmnÏau, ffoniwch llinell Genedlaethol Ymholiadau Rheilffordd ar 08457 48 49 50. Mae'r orsaf oddeutu 15 munud o Dy Columbus gyda thacsi. Neu gallwch gymryd bws o Orsaf Fysiau Casnewydd.

Gyda Bws

Defnyddiwch fys rhif 64, 73 neu 74 o Orsaf Fysiau Casnewydd i'r arhosfan yn Blossom Close sef yr arhosfan agosaf at y ganolfan wrandawiadau. Mae'r bysiau'n gadael yr orsaf bob rhyw 15 munud ac mae'r siwrnai'n cymryd 15 - 20 munud.

Cyrraedd Gorsaf Fysiau Casnewydd o'r Orsaf Drenau.

Ewch allan o'r orsaf Drenau a dilynwch yr arwyddion cyfeiriad GLAS ar gyfer yr orsaf fysiau ar draws y ffordd ac i Ganol y Ddinas, sydd i gerddwyr yn unig. Wedyn, dilynwch yr arwyddion GWYRDD TYWYLL i'r dde ac ewch heibio i Farchnad Casnewydd ar y chwith i chi. Cadwch i'r chwith wrth Gymdeithas Adeiladu'r Principality ac i'r dde wrth y groesffordd. Gan fynd heibio i'r Swyddfa Basport ar y dde, ewch ymlaen at fynediad Marks & Spencer ac mi welwch yr Orsaf Fysiau o'ch blaen.

ˆ Brig y Dudalen ˆ

Ar y Ffordd

O'r M4 tua'r Dwyrain (Bryste/Llundain)

Gadewch y draffordd yng nghyffordd 24. Ar y gylchfan fawr (Y Coldra), cymerwch y 5ed ffordd oddi ar y gylchfan ar yr A48 i gyfeiriad Langstone/Cas-Gwent. Ar y gylchfan fach (tua 100 llath), trowch i'r chwith ac mae Ty Columbus yn union o'ch blaen wrth ymyl Gwesty'r Hilton.

O'r M4 tua'r Gorllewin (Caerdydd)

Gadewch Gyffordd 24 yn y lÔn ganol. Ar y gylchfan fawr (Y Coldra), cymerwch

yr 2il ffordd oddi ar y gylchfan ar yr A48 i gyfeiriad Langstone/ Cas-Gwent. Ar y gylchfan fach (tua 100 llath), trowch i'r chwith ac mae Ty Columbus yn union o'ch blaen wrth ymyl Gwesty'r Hilton.

O'r M5/M50 (Birmingham)

Ewch ar yr A40/A559 (tua'r De). Dyma'r prif lwybr o Rosan ar Wy, trwy Drefynwy i Gasnewydd. Mae'r A449 yn terfynu yn y gylchfan fawr (Y Coldra) yng Nghasnewydd. Cymerwch y ffordd gyntaf oddi ar y gylchfan ar yr A48 i gyfeiriad Langstone/Cas-Gwent. Ar y gylchfan fach (tua 100 llath), trowch i'r chwith ac mae Ty Columbus yn union o'ch blaen wrth ymyl Gwesty'r Hilton.

Gyda Thacsi

Mae tacsis ar gael yn gyson hefyd yn yr orsaf drenau. Gofynnwch i'r gyrrwr fynd â chi i'r TLlM (AIT), Ty Columbus ym Mharc Busnes Langstone (wrth ymyl Gwesty'r Hilton).

Mae'r TLlM yn darparu gwasanaeth bws mini cyfyngedig i ategu'r gwasanaeth trafnidiaeth lleol. Bydd y gwasanaeth hwn yn weithredol yn ystod y dydd rhwng gorsaf drenau Casnewydd a Thy Columbus. I gael amseroedd y bws, ffoniwch y Ganolfan Gwasanaeth

View venue details for Casnewydd using Streetmap.co.uk.